Baner Togo

Baner Togo

Baner o bum stribed llorweddol gyda seren wen ar sgwâr coch yn y canton yw baner Togo. Mae nifer y stribedi yn symboleiddio pum rhanbarth y wlad, ac eu lliwiau bob yn ail yw gwyrdd (tri ohonynt; i gynyrchioli cyfoeth amaethyddol) a melyn (dau ohonynt; i gynrychioli cyfoeth mwynol). Mae coch y canton yn symboleiddio'r gwaed a gollwyd yn y frwydr am annibyniaeth, tra bo'r seren wen yn symboleiddio gobaith (yn debyg i'r seren ar faner Liberia).

Seiliwyd lliwiau'r faner ar liwiau baner Ethiopia a ddaeth yn liwiau'r mudiad Pan-Affricanaidd dros fudiadau annibyniaeth i bobloedd ddu y cyfandir, a thu hwnt.

Mabwysiadwyd y faner gyfredol ar 27 Ebrill 1960 yn sgîl annibyniaeth Togo ar Ffrainc.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy